1.           Faint wnaeth eich awdurdod ei wario yn ganolog ar wasanaethau cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar ei chyfer?

£117,000

Faint ydych chi'n bwriadu ei wario yn y flwyddyn ariannol nesaf (2017-18)?

£117,570

2.           O'r gwariant a nodwyd yng nghwestiwn un, a yw'r arian hwn yn cael ei wario'n uniongyrchol gan yr awdurdod ynteu a ydych yn gweithio ar sail trefniadau consortiwm gydag Awdurdodau Lleol eraill?

Os ydych yn gweithio trwy gonsortiwm, pa awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o'r trefniadau hynny?

Mae Cyngor Gwynedd a Cyngor Môn yn prynu gwasanaethau cerdd gan gwmni “Gwasanaeth Ysgolion William Mathias” drwy cytundeb. Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi ei gyfyngu trwy warant ac wedi ei  gofrestru yn elusen.

Prif amcan Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yw i hyrwyddo ac annog darpariaeth gweithgaredd cerddorol yng Ngwynedd a Môn. Cyflawnir hyn drwy ddarpariaeth o wersi cerddorol offerynnol a lleisiol i dros 5000 o ddisgyblion gan bron i i 65 o diwtoriaid profiadol, ei gwasanaeth benthyca offerynnau cerdd (dros 4,500 o offerynnau), a'r ensemblau rhanbarthol a sirol a gynhelir.

3.           Sawl aelod o staff ydych chi'n ei gyflogi yn y gwasanaethau cerddoriaeth ar hyn o bryd, neu faint o swyddi ydych chi'n eu cefnogi drwy gonsortia?

Nid yw Cyngor Gwynedd yn cyflogi unrhyw staff i gyflawni y gwasanaeth cerddoriaeth – darperir y gwasanaeth gan gwmni GYWM

4.           Faint o arian wnaeth eich awdurdod ei ddarparu i ysgolion ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth yn y flwyddyn ariannol y mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar ei chyfer?

£284,636

Faint o arian ydych chi'n bwriadu ei ddarparu i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf (2017-18)?

£287,739

5.           A yw unrhyw faint o'r ddarpariaeth ariannol a nodwyd yn ateb i gwestiwn pedwar wedi'i glustnodi ar gyfer unrhyw ddibenion arbennig, neu a oes rhwydd hynt i ysgolion wario eu harian ar wasanaethau eraill?

Os ydych yn gweithio trwy gonsortiwm, pa awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o'r trefniadau hynny?

Mater i Cyrff Llywodraethwyr yr ysgolion yw gosod cyllideb ysgolion wedi derbyn dyraniad terfynol gan yr Awdurdod. Mater i’r Cyrff Llywodraethwyr yw gosod ffioedd perthnasol i rieni disgyblion am wersi cerddorol a brynir gan Cwmni GYWM.

Noder yn 2015-16 y sefyllfa derfynol  ganlynol:-

Gwariant Gross Ysgolion Gwynedd  (prynu gwasanaeth gan gwmni GYWM)        
£547,795

Llai Incwm gan Rieni
(£212,491)

Gwariant Net Ysgolion
£335,304

Dyraniad Ysgolion 2015-16
£280,465

Gwariant uwch na’r dyraniad £54,839 neu 19.6% uwch na’r dyraniad.

Disgwylir i’r tueddiad gwariant barhau yn 2016-17 a 2017-18

6.           A yw eich awdurdod yn bwriadu darparu unrhyw gyllid ar gyfer ensemblau rhanbarthol a chenedlaethol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?

Ydi

Os felly, faint?

£7,870